CYLCHGRAWN

Cyhoeddir Cambrian Medieval Celtic Studies ddwywaith y flwyddyn: un gyfrol yn yr haf a'r llall yn y gaeaf. Tua 4 - 6 erthygl sydd ymhob cyfrol, ynghyd ag adolygiadau ar y llyfrau diweddaraf ym maes Astudiaethau Celtaidd. Golygir CMCS gan yr Athro Patrick Sims-Williams.

Pris tanysgrifiad blynyddol yw £10 (£40 ar gyfer llyfrgelloedd).

Cyhoeddir y cylchgrawn ar ffurf llyfr clawr meddal; nid oes fersiwn ddigidol o CMCS ar gael, ond dyma sampl i'w lawrlwytho ar ffurf PDF: CMCS 3 (Summer 1982) .

Hen rifynnau

Gellir prynu copïau o hen rifynnau'r cylchgrawn drwy ddefnyddio'r ffurflen archeb. Gellir lawrlwytho rhestr o gynnwys pob rhifyn yma.